Telerau defnyddio
Defnydd a Ganiateir
Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â yournewport.co.uk (gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) gael mynediad at ddeunyddiau a gyhoeddwyd (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau defnyddio.
Er y gellir cyrchu, lawrlwytho a defnyddio cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (ee ymchwil preifat, astudio neu ddefnydd mewnol); rhaid i ymwelwyr beidio ag atgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd y wefan / perchennog yr hawlfraint.
Mae delweddau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y wefan hon yn eiddo i ni a/neu drydydd parti. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint.
Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n berthnasol i’r wefan hon yn perthyn i Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a, lle bo’n berthnasol, i gyrff trydydd parti.
Gwybodaeth personol
Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy ar y wefan hon yn wirfoddol (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflen adborth, holiaduron ac ati), dim ond i ymateb i’ch ymholiadau ac i’r pwrpas y’i bwriadwyd yw’r wybodaeth a gyflwynir. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr gwe gyda thrydydd parti.
Amddiffyn rhag feirws
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd am firysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunyddiau a lwythir i lawr o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Ymwadiad
Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, er gwybodaeth gyffredinol yn unig y darperir cynnwys, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy’n deillio o unrhyw weithred neu anweithred sy’n deillio o ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.
Gwefannau Allanol
Nid yw yournewport.co.uk yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â chynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar wefannau o’r fath. Ni ddylid cymryd bod rhestru yn ardystiad o unrhyw fath.
Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros p’un a yw’r tudalennau cysylltiedig ar gael na newid cyfeiriad gwefan.
mae yournewport.co.uk yn cadw’r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.
Gwelliannau yn y Dyfodol
Bydd newidiadau dilynol i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.
